Yr enwau a ddefnyddir yw'r rhai a welir ar fapiau'r Arolwg Ordnans presennol. Mae hyn yn caniatáu i'r nodwedd gael ei lleoli, ei hastudio a'i chymharu â mapiau cynharach. Fodd bynnag, nid yw defnyddio enw, fel y'i rhoddir ar y map, yn ddilysiad cywirdeb. Ceir testun y ddwy brif ardal yn Gymraeg ac yn Saesneg, gellir lawrlwytho'r rhain fel ffeiliau PDF a'u cadw yn ôl yr angen. Bydd yr adrannau testun hyn yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd ac ychwanegir ardaloedd mynydd eraill yn ôl yr arfer.
Edrychwch ar y ddewislen ar y brig a dewiswch pa ardal i ddarllen.
1. Bydd y gwymplen yn dangos y tri phennawd: Mynyddoedd, Clogwyni a Chreigiau, Bylchau.
2. Cliciwch ar un o'r penawdau adran a byddech yn mynd at restr o ardaloedd.
3. Gellir darllen neu lawr lwytho pob ardal fel ffeil Pdf.
4. Unwaith y caiff ei lawr lwytho gall un ddefnyddio syllwr Pdf a dylai chwiliad testun fod ar gael (trosi'r ffeil os nad yw'n caniatáu chwilio).
Os ydych yn lawrlwytho ffeiliau PDF, gwnewch gyfraniad bach tuag at brif gyflenwad a datblygiad y wefan hon - neu goffi! Diolch